Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2020
Amser:
14.00 -
16.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6334
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Huw Irranca-Davies AS Mark Isherwood AS Delyth Jewell AS Caroline Jones AS David Melding AS |
Tystion: |
Sara Kirkpatrick, Welsh Women’s Aid Yasmin Khan, Unigolyn |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Dirprwyodd David Melding AS ar ran Mark Isherwood AS ar gyfer eitem 8, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
· Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru
2.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y tyst i wneud y canlynol:
· rhoi tystiolaeth bresennol, os yw’n bosibl, ar hunanladdiad sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig;
· rhoi gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag aflonyddu a stelcio.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
· Yasmin Khan, Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a mathau eraill o Drais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
3.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y tyst i wneud y canlynol:
· rhoi gwybodaeth am strategaeth ymadael y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer dod â’r cyfyngiadau symud i ben;
· rhoi gwybodaeth benodol am raglenni cyflawnwyr.
4.1a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru wedi’i ddiweddaru i adroddiad y Pwyllgor ar Fudd-daliadau yng Nghymru.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytuno arni.
8.1 Trafododd y Pwyllgor Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Tân.